Mae perchnnog bwyty cyri yn y Rhondda wedi ei gael yn ddieuog o ymosod ar gwsmer a oedd wedi cwyno am ei fwyd trwy daflu powdwr tsili yn ei wyneb.

Roedd Karmul Islam, a arferai fod yn berchennog y Prince of Bengal yn Tonypandy, wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol gwirioneddol i David Evans yn y bwyty ar Ionawr 21 y llynedd.

Ar ôl achos llys a barhaodd am bum niwrnod yn Llys y Goron Merthyr Tudful, dywedodd Karmul Islam:

“Ro’n i’n hyderus iawn y byddai’r gyfundrefn Brydeinig yn cael yr ateb iawn.

“Mae pobol y Rhondda wedi rhoi cymaint imi yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, ac mae’r canlyniad yn golygu na fydd unrhyw gwestiwn amdanaf i.”

Cwyno

Clywodd y llys fod David Evans a’i wraig Michelle wedi mynd am bryd o fwyd i’r bwyty ac wedi cwyno fod y cyw iâr yn wydn ac â blas paraffin arno.

Roedden nhw wedi honni bod Karmul Islam wedi ymddwyn yn ymsodol ac wedi rhegi a thaflu’r sbeis poeth ar David Evans.

Dywedodd Ruth Smith wrth amddiffyn Karmul Islam, fodd bynnag, fod y ddau gwsmer yn dystion annibynadwy, ac awgrymodd eu bod yn feddw.

Dywedodd mai nhw oedd yn ymosodol, a bod Karmul Islam wedi defnyddio’r powdwr tsili i amddiffyn ei hun, ond nad oedd wedi achosi niwed i David Evans.