Mae yna dros 2,000 o dai yng Nghymru sydd gwerth £1 miliwn neu fwy, yn ôl gwybodaeth newydd gan wefan chwilio am dai.
Yn ôl y wefan Zoopla mae yna 2,223 o gartrefi yng Nghymru sydd gwerth o leiaf £1 miliwn, y nifer isaf o’r holl lefydd ar Ynys Prydain.
Mae 768,553 o gartrefi gwerth miliwn o bunnau neu fwy ledled Prydain oll, ac mae’n debyg bod dros eu hanner – 430,720 – yn Llundain.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod mwy o dai £1 miliwn yn nhref Guildford yn Surrey, nag sydd yng Nghymru oll – 5,889 yw’r ffigwr yno.
Niferoedd tai £1m ledled Prydain
- Llundain: 430,720
- De ddwyrain Lloegr: 180,397
- Dwyrain Lloegr: 69,840
- De orllewin Lloegr: 33,717
- Gogledd orllewin Lloegr: 12,552
- Gorllewin canolbarth Lloegr: 12,219
- Yr Alban: 11,101
- Dwyrain canolbarth Lloegr: 6,845
- Gogledd Ddwyrain Lloegr: 4,835
- Sir Efrog a Humber: 4,103
- Cymru: 2,223