Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n “credu’n gryf” mai troed dde dyn yw honno a gafodd ei chanfod ar draeth yng Ngwynedd ddoe (dydd Mercher, Chwefror 7).

Fe ddaethpwyd o hyd i’r gweddillion ar draeth Y Felinheli, rhwng Caernarfon a Bangor, ac mae prawf post mortem yn awgrymu’n gryf mai troed dde dyn ydyw hi.

Roedd y profion hefyd yn dangos nad oedd y droed wedi bod yn y dŵr am fwy nag wythnos, a’i bod yn anodd rhoi “oedran” iddi.

Nid yw’r heddlu’n trin y farwolaeth fel un amheus, ac maen nhw’n parhau i gynnal ymholiadau wrth adnabod y gweddillion a hysbysu’r perthnasau agosaf.

Ymchwiliad yn parhau

“Mae’n ffocws yn parhau ar adnabod y gweddillion a throsglwyddo’r newyddion trist iawn yma i deulu a ffrindiau,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae DNA wedi’i gael a gwnawn yn awr flaenoriaethu gwiria ar y gronfa ddata genedlaethol o rai pobol sydd ar goll.

“O ran cwrteisi, rydym wedi siarad â theuluoedd pobol sydd ar goll yn lleol er mwyn eu sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i uno’r gweddillion gyda’r teulu cyn gynted ac mor sensitif â phosib.”