Mae perchennog bwyty Indiaidd yn Nhonypandy wedi ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o achosi niwed corfforol drwy daflu powdwr tsili i lygaid cwsmer.

Clywodd Llys y Goron Merthyr heddiw fod y cogydd, Kamrul Islam, 47, oed, wedi taflu powdwr tsili at David Evans ar ôl iddo gwyno am ei bryd bwyd ym mwyty’r Prince of Bengal yn Nhonypandy ar Ionawr 21 y llynedd.

Mae Kamrul Islam yn gwadu achosi niwed corfforol.

Wrth agor yr achos ar ran yr erlyniad heddiw, clywodd y llys fod y cogydd wedi dechrau rhegi ar David Evans a’i wraig, Michelle, ar ôl iddyn nhw gwyno am safon eu bwyd.

Fe gerddodd Kamrul Islam yn ôl i gyfeiriad y gegin wedyn, cyn taflu powdwr tsili i lygaid David Evans a oedd wedi ei ddilyn er mwyn mynnu ymddiheuriad.

Bu raid i David Evans dderbyn triniaeth yn yr ysbyty wedyn, wedi i’r powdwr achosi llosgiadau i’w lygaid.

Cafodd Kamrul Islam, o Stryd Llewellyn, Pentre ei arestio yn ddiweddarach y noson honno. Dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi ceisio amddiffyn ei hun, oherwydd ei fod yn credu bod David Evans yn mynd i ymosod arno ac mae’n gwadu rhegi ar y cwpl.

Ystyried y “ddwy ochr”

Wrth gloi, dywedodd Stephen Donaghue ar ran yr erlyniad fod angen i’r rheithgor edrych ar y “ddwy ochr” o’r gynnen; sef yr hyn gafodd ei ddweud wrth y bwrdd, ac a oedd Kamrul Islam wedi ymddwyn mewn modd cyfreithlon er mwyn amddiffyn ei hun.

Cafodd yr achos ei ohirio tan ddydd Mawrth (Chwefror 6).