Mae dau aelod o’r SAS yn wynebu llys milwrol mewn cysylltiad â marwolaeth tri milwr wrth gefn yn ystod ymarferiad 16 milltir ym Mannau Brycheiniog.

Mae’r ddau ddyn, sy’n cael eu hadnabod fel 1A ac 1B, yn gwadu perfformio dyletswydd yn esgeulus drwy fethu a chymryd gofal digonol am iechyd a diogelwch yr ymgeiswyr oedd yn cymryd rhan yng nghwrs hyfforddi’r SAS.

Bu farw’r Is-Gorporal Craig Roberts, o Fae Penrhyn, a’r Is-Gorporal Edward Maher, o Gaerwynt, ar ôl gorboethi yn ystod yr ymarferiad yn y Bannau ym mis Gorffennaf 2013.

Bu farw’r Corporal James Dunsby o Wiltshire bythefnos yn ddiweddarach yn yr ysbyty yn Birmingham ar ôl i’w organau fethu.

Roedd 1A ac 1B wedi ymddangos y tu ol i sgrin yn Llys Milwrol Colchester ddydd Llun ynghyd a’u bargyfreithiwr Lewis Cherry.

Fe allai 1A, y swyddog hyfforddiant a oedd yn gyfrifol am yr orymdaith, ac 1B, y prif hyfforddwr yn ystod yr ymarferiad, wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar neu golli eu swyddi os ydyn nhw’n cael eu canfod yn euog.

Mae’r ddau wedi pledio’n ddieuog i un cyhuddiad o fod yn esgeulus wrth berfformio dyletswydd.

Maen nhw’n wynebu achos yn y Llys Milwrol yn Bulford, Wiltshire ar 3 Medi.