Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod “y tywydd oeraf y gaeaf hwn” ar ei ffordd i Gymru, gyda’r posibilrwydd o eira mewn rhai ardaloedd.

Mae rhybudd melyn am eira a rhew mewn sawl ardal ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher.

Mae’r rhybudd cyntaf yn rhedeg o 8 o’r gloch nos Lun tan 3 o’r gloch brynhawn dydd Mawrth, ac mae’n debygol o effeithio ar rannau helaeth o’r de-ddwyrain. Mae disgwyl i law droi’n eirlaw ac eira yn yr ardal honno erbyn dydd Mawrth.

Mae’r ail rybudd yn rhedeg o 5 o’r gloch fore Mawrth tan 9 o’r gloch fore Mercher, ac mae’n debygol o effeithio ar yr holl ardaloedd i’r de-orllewin o Ben-y-bont ar Ogwr.

Mae’r tywydd yn debygol o effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae rhybudd i deithwyr gynllunio’n ofalus cyn teithio dros y dyddiau nesaf.