Mae un o brif ffyrdd Sir Benfro ynghau yn dilyn gwrthdrawiad.

Mae’r A477 ynghau i’r ddau gyfeiriad ar gyrion Doc Penfro ger y cyffordd ag Ystad Ddiwydiannol Kingswood.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 10.30 y bore yma.

Dylai teithwyr rhwng Doc Penfro a Chaeriw osgoi’r ardal a mynd am Benfro, ac fe allai effeithio ar bobol sy’n mynd am y fferi i Rosslare.