Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi methu delio gyda gwendidau Bwrdd Iechyd y Gogledd.
Yn ôl y Torïaid yn y Cynulliad, mae “pethau wedi mynd o ddrwg i waeth” ers i’r bwrdd iechyd gael ei roi mewn mesurau arbennig 30 mis yn ôl.
Ddoe fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd y byddai’r bwrdd yn cael mwy o gymorth ac arian i ymdopi gyda heriau.
Cyllideb flynyddol Bwrdd Iechyd y Gogledd yw £1.3 biliwn, a bydd £13.1 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar geisio cwtogi amseroedd aros am driniaeth.
Mewn datganiad, dywedodd Vaughan Gething ei fod wedi’i ddigalonni a’i siomi fod rhai meysydd o fewn y bwrdd wedi gwaethygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf y gwaith i geisio gwella safonau.
Wrth siarad yn y Siambr yn y Senedd yr wythnos hon, bu Janet Finch-Saunders, AC o’r Ceidwadwyr, yn sôn am ei phrofiad personol o golli ei thad ychydig fisoedd yn ôl o ganlyniad i “farwolaeth ddamweiniol” wedi llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.
Atebodd Vaughan Gething gan ddweud nad oedd yn derbyn amheuon nad oedd e’n ymrwymedig i’w swydd a mynnodd bod rhai meysydd o fewn y bwrdd iechyd yn gwella.
Ond mewn datganiad y diwrnod canlynol, cyhoeddodd y byddai Betsi Cadwaladr yn derbyn mwy o arian.
“Cyfaddef methiant”
“Mae hyn yn gyfaddefiad o fethiant gan Lywodraeth Cymru, a roddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dan ei chategori uchaf o ymyrraeth 30 mis yn ôl,” meddai Janet Finch-Saunders am sylwadau Vaughan Gething.
“Ers hynny, mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth, a dw i wedi bod yn codi fy mhryderon difrifol iawn ar y materion hyn i’r Prif Weinidog a’i Ysgrifennydd Cabinet dro ar ôl tro – o fy mhrofiad personol a rhai fy etholwyr.
“Tra bod gwirionedd yn yr hyn y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud o ran pa mor ddigalon ydyw bod perfformiad wedi mynd am nôl mewn meysydd allweddol, mae’n siomedig ei fod wedi cymryd mor hir i sylwi.
“Bydd cleifion a theuluoedd ledled y Gogledd yn cwestiynu sut gallwn ni gael unrhyw ffydd yn Llywodraeth Cymru y bydd pethau yn gwella.”
Ymateb y Llywodraeth
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi amlygu mannau o welliant yn ei datganiad, yn enwedig yng ngwasanaethau mamolaeth sydd ddim yn cael ei ystyried yn bryder sy’n galw am fesur arbennig mwyach.
“Yn ogystal mae e’n amlinellu mannau o bryder a heriau mae rhaid i’r Bwrdd Iechyd ymateb iddo i sicrhau ei bod yn cwrdd â disgwyliadau ac yn gwneud y gwelliannau cynaliadwy sydd angen.
“Mae ffocws ni ar weithio gyda’r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod pobol Gogledd Cymru yn gweld gwelliannau ac yn derbyn gwasanaethau o’r safon uchaf.”
Ymateb Bwrdd Iechyd y Gogledd
Dywedodd Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn cydnabod asesiad Llywodraeth Cymru o’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ac rydym yn benderfynol o gyflawni’r gwelliannau pellach sy’n ofynnol.
“Rwyf yn falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi bod cynnydd wedi’i wneud yn erbyn y fframwaith gwelliannau ac rwyf eisiau diolch i’r staff am eu gwaith caled a’u hymroddiad.
“Mae’n bleser penodol nodi bod y cynnydd arwyddocaol a wnaed yn yr adran mamolaeth wedi arwain at ddad-ddwysau’r gwasanaeth o Fesurau Arbennig. Hefyd nodwyd datblygiad a gweithrediad strategaeth gwasanaethau iechyd meddwl, gwell ymgysylltiad gyda’r cyhoedd, gwelliant yng nghanlyniadau arolwg staff a darpariaeth lwyddiannus o fodelau newydd gwasanaethau gofal cychwynnol.
“Er bod meysydd ble rydym yn perfformio’n dda, er enghraifft canser a nifer o wasanaethau therapi, rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy. Rydym yn llwyr ymwybodol o raddfa’r her sydd o’n blaenau.
“Mae’n rhaid i ni gyflawni nifer o welliannau sylweddol sydd wedi’u gosod gan Llywodraeth Cymru, yn cynnwys trawsnewid ein sefyllfa ariannol a gwella ein perfformiad ar dargedau amseroedd aros.
“Mae cynlluniau ar y gweill i ddarparu gostyngiad mewn amseroedd aros eleni ac rydym wedi datblygu cynlluniau mewn ystod o feysydd allweddol megis offthalmoleg ac orthopaedeg i adeiladu ar hyn wrth symud ymlaen. Mae gennym gynllun adfer ariannol yn ei le ar gyfer eleni ac rydym ar y trywydd iawn i’w gyflawni ac yn gweithio i gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt.”