Ar fore cyntaf Radio Cymru 2 ar yr awyr, mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r orsaf newydd, gan ddweud ei bod yn “gam yn y cyfeiriad iawn”.

Ond maen nhw’n ailadrodd eu dymuniad i weld y grym tros ddarlledu’n cael ei ddatganoli i Fae Caerdydd “er mwyn normaleiddio’r Gymraeg ar draws y cyfryngau”.

Dafydd Du a Caryl Parry Jones yw’r cyflwynwyr newydd ar yr awyr rhwng 6.30 a 8.30 heddiw, gyda rhaglen “fydd yn eich deffro gyda llond lle o straeon, cyfarchion, cwmnïaeth a’r cyfle i ganu fflatowt i’r gerddoriaeth orau”.

Bydd y rhaglen hon yn cael ei darlledu o ddydd Llun i ddydd Iau, gyda Huw Stephens yn darlledu rhaglen fore Gwener sy’n cynnwys “tiwns yn barod i’w troelli ar gyfer dechrau llawn hwyl a cherddoriaeth”.

Bydd Lisa Angharad yn cyflwyno rhaglen fore Sadwrn rhwng 7 a 9, ac mae’r orsaf yn rhybuddio gwrandawyr i “ddisgwyl yr annisgwyl”.

Lisa Gwilym fydd ar yr awyr rhwng 8 a 10 fore Sul, lle mae gwahoddiad i wrandawyr “aros yn y gwely am ychydig yn hirach” neu ymlacio ar y soffa “ar ôl wythnos brysur” yng nghwmni teulu a ffrindiau.

Bydd yr arlwy ar gael ar lwyfannau digidol gan gynnwys DAB, gwefan BBC Radio Cymru ac ar deledu.

Fydd yr arlwy newydd ddim yn effeithio ar amserlen bresennol Radio Cymru ar donfedd FM.

‘Adeg i ddathlu’

Mewn datganiad yn croesawu’r orsaf newydd, dywedodd cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith, Aled Powell ei bod yn “adeg i ddathlu’r cam yma i’r cam iawn, cam tuag at sicrhau bod pawb yn gallu dewis byw eu bywydau yn Gymraeg”.

Ychwanegodd: “All un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly rydym yn croesawu bod mwy o amrywiaeth o ran cynnwys fel bod gan wrandawyr rywfaint o ddewis.

“Mawr obeithiwn y daw cadarnhad y bydd yr orsaf newydd hon yn un barhaol ac yn wasanaeth lawn yn y pen draw.

“Rydym yn gwybod fod staff Radio Cymru wedi gweithio’n galed iawn ar y fenter hon ac maen nhw’n haeddu pob llwyddiant.

“Wrth edrych ymlaen, mae’r angen i ddatganoli darlledu yn fwy nag erioed er mwyn osgoi sefyllfa ble mae un darparwr yn dominyddu ein cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig yn y Gymraeg.”

 ‘Llai a llai o Gymraeg’

Ychwanegodd Aled Powell: “Dan y gyfundrefn bresennol o reoleiddio o San Steffan, rydyn ni’n gweld a chlywed llai a llai o Gymraeg ar ein cyfryngau lleol a masnachol.

“Wedi dirywiad difrifol y Gymraeg ar orsafoedd fel Radio Ceredigion a Radio Sir Gâr, mae gwir angen atal hyn drwy ddatganoli grymoedd darlledu i’r Senedd yng Nghymru.

“Mae’r ddogfen ymchwil rydyn ni wedi cyhoeddi yn dangos drwy ddatganoli darlledu y bydd modd buddsoddi degau o filiynau o bunnau’n fwy yn darlledu yng Nghymru, gan sefydlu tair gorsaf radio a thair sianel teledu Cymraeg yn ogystal â chynnal rhai dwyieithog.

“Felly mae’r ymgyrch dros ragor o wasanaethau yn parhau. Os ydym am gael gwasanaethau teilwng i Gymru a’r Gymraeg, a’r rheini gan blwraliaeth o ddarparwyr, mae’n rhaid i bobl Cymru allu llywio ein system gyfryngol ein hunain.”