Fe allai pobol 16-17 oed gael pleidleisio mewn etholiadau cyngor fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r drefn etholiadol.

Cafodd ymgynghoriad ar y cynlluniau’n agos at 1,000 o ymatebion.

Bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru’n cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth, ac fe ddywedodd Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Alun Davies fod “democratiaeth leol yn dibynnu’n llwyr ar y rhai sy’n cymryd rhan”.

Ychwanegodd: “Rydyn ni am roi hwb i’r nifer sydd wedi cofrestru fel etholwyr, ei gwneud yn haws i bobol bleidleisio, a rhoi’r hawl i fwy o bobol gymryd rhan.

Y cynlluniau

Fel rhan o’r cynlluniau, byddai’r bleidlais mewn etholiadau cyngor yn cael ei hymestyn i gynnwys pobol 16-17 oed, ynghyd â gwladolion tramor sy’n byw’n gyfreithiol yng Nghymru.

Maen nhw hefyd yn awgrymu cofrestru awtomatig er mwyn sicrhau bod niferoedd yn uchel.

Mae Alun Davies hefyd am weld “dulliau pleidleisio newydd, arloesol sy’n adlewyrchu bywydau prysur pobol”, a allai olygu pleidleisio o bell, gorsafoedd pleidleisio symudol a phleidleisio mewn mannau megis archfarchnadoedd, llyfrgelloedd lleol, canolfannau hamdden a gorsafoedd trên.

Byddai datganiadau polisi’r ymgeiswyr ar gael ar y we, ac ymgeiswyr yn datgan unrhyw ymlyniad i blaid benodol. Bydd pleidleiswyr yn gwybod am ddaliadau’r ymgeiswyr, gan roi mwy o reswm i etholwyr bleidleisio.

‘Ymddieithrio’

Yn ôl Alun Davies, mae’n gofidio bod gormod o bobol “wedi ymddieithrio o’r broses wleidyddol”.

“Mae nifer o resymau am hyn, ond mae’n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod y broses yn fwy deniadol, croesawgar a thryloyw,” meddai.

“Bydd y cynigion sy’n cael eu cyhoeddi’r wythnos hon, gobeithio, yn help i annog mwy i gymryd rhan a gwella’r broses ddemocrataidd i bawb yng Nghymru.

“Hoffwn i weld mwy o awdurdodau yng Nghymru’n arwain a phrofi nifer o ddulliau pleidleisio arloesol, rhywbeth sydd wedi bod ar stop ar lefel y Deyrnas Unedig ers canol y degawd diwethaf.

“Rydw i am weld, er enghraifft, os byddai pleidleisio a chyfri electronig, neu bleidleisio ar fwy nag un diwrnod neu mewn llefydd eraill ar wahân i’r gorsafoedd pleidleisio traddodiadol, yn helpu i sicrhau bod mwy yn cymryd rhan ac yn gwella’r profiad cyffredinol i etholwyr Cymru.”

Croesawu’r cynlluniau

Mae Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru wedi croesawu’r cynlluniau.

Dywedodd Jessica Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, “Rydyn ni’n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r syniadau arloesol hyn i foderneiddio ein democratiaeth.

“Dyma gyfle i Gymru arwain y ffordd wrth greu system wleidyddol sy’n gweithio i bawb – ac mae hynny’n arbennig o briodol wrth i ni ddathlu canmlwyddiant rhoi’r hawl i fenywod bleidleisio.

“Llynedd buom yn siarad â bron i 1,000 o bobl ledled Cymru am wleidyddiaeth a phleidleisio yn ein prosiect Lleisiau Coll, ac fe welwyd bod awydd gwneud pethau’n wahanol. Yn ein barn ni, y cynigion hyn yw’r cam cyntaf i wneud hynny.”