Wrth i gyfrifoldebau cynghorau cymuned a thref yng Nghymru gynyddu, rhaid iddyn nhw wella eu trefniadau o ran llywodraethu a thrin arian.

Dyna yw’r safbwynt sydd wedi’i amlinellu gan yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan-Thomas, mewn adroddiad newydd sydd wedi’i chyhoeddi heddiw.

Yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol mae “gormod” o gynghorau yn methu â pharatoi cyfrifon ar amser – methodd 80 cyngor yng Nghymru i gynnig cyfrifon y llynedd cyn y dyddiad cau.

Mae hefyd yn nodi yn yr adroddiad bod “nifer arwyddocaol” o gynghorau wedi dangos diffyg dealltwriaeth o ran trefniadau llywodraethu.

Dyma’r chweched adroddiad o’i fath sy’n edrych ar lywodraethu a rheolaeth ariannol mwy na 730 o gynghorau tref a chymuned ledled Cymru.

Cyfrifoldebau

“Wrth i’w refeniw gynyddu, mae’n bwysig bod cynghorau’n gwella eu trefniadau llywodraethu, ac yn sicrhau bod eu haelodau’n mabwysiadu cod ymddygiad ac yn cydymffurfio ag ef, fel eu bod yn llwyr ddeall ac yn cydymffurfio â’u cyfrifoldebau statudol,” meddai Huw Vaughan-Thomas.

Daw’r adroddiad ond ychydig ddyddiau wedi i’r cynghorydd lleol tros Fethel a Seion, Siôn Jones, alw am roi cyfrifoldebau pellach i gynghorau cymuned a thref – neu eu gwaredu fel arall.