Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chymryd camau allweddol er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi methu a dangos “arweinyddiaeth ddigonol” a heb gymryd “camau gweithredu digonol” mewn sawl maes.

Ymysg y meysydd sydd dan sylw mae cynllunio gweithluoedd, sicrhau mwy o atebolrwydd a hyrwyddo’r gwaith o ddefnyddio arferion da.

Er y feirniadaeth mae’r Comisiynydd yn cydnabod bod rhywfaint o “gynnydd cadarnhaol” wedi cael ei gyflawni gan Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol.

Parhau’n “annerbyniol”

“Rhaid i Lywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol ganolbwyntio o’r newydd ar gymryd camau gweithredu ystyrlon er mwyn cyflawni’r ymrwymiadau a wnaethant mewn ymateb i fy Arolwg o Gartrefi Gofal,” meddai’r Comisiynydd, Sarah Rochira.

“Bydd methu gwneud hynny yn golygu na fydd ein system cartrefi gofal yn gallu diwallu anghenion pobl hŷn o ran gofal a chymorth ac, yn bwysicach byth, bydd yn golygu bod ansawdd bywyd gormod o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn parhau i fod yn annerbyniol.”

Meddai’r Llywodraeth

“Er ein bod yn cydnabod bod llawer o waith eto i’w wneud, nid ydym yn cydnabod y prif honiad,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fodd bynnag byddwn yn ystyried yr adroddiad yn fwy manwl dros y dyddiau nesaf ac yn ymateb i’w phryderon maes o law.”