Mae enw cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, ymhlith yr enwau a fydd yn cael eu rhoi ar longau newydd a fydd yn cael eu defnyddio i amddiffyn pysgodfeydd Cymru.
Wrth ymweld â Mainstay Marine Solutions yn Noc Penfro heddiw – lle mae’r llongau’n cael eu hadeiladu – mae Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd y llongau’n cael eu henwi ar ôl Cymry blaenllaw yn hanes Cymru.
Rhodri Morgan, a fu farw y llynedd, yw’r unig ddyn i gael llong wedi’i enwi ar ei ôl, gyda’r lleill yn cynnwys enwau:
- Gwenllian – merch Llywelyn ap Gruffydd;
- Siwan – gwraig Llywelyn Fawr;
- Catrin – merch Owain Glyndŵr;
- Lady Megan – sef Megan Lloyd George, yr Aelod Seneddol benywaidd cyntaf mewn etholaeth yng Nghymru, a merch David Lloyd George.
Fe fydd y llongau newydd yn cymryd lle’r hen longau presennol er mwyn diogelu moroedd Cymru rhag pysgota anghyfreithlon.
“Diogelu moroedd Cymru”
“Bydd y cychod patrôl newydd yn ein galluogi i barhau i orfodi cyfreithiau pysgodfeydd a morol yn effeithiol ym moroedd Cymru ac yn ein helpu i ysgwyddo’n hymrwymiad i reoli’n stociau pysgod yn gynaliadwy,” meddai Lesley Griffiths.
“Byddan nhw’n ein helpu i ddiogelu diwydiant pysgota Cymru a’n cymunedau arfordirol yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae Lesley Griffiths hefyd wedi dadorchuddio baner newydd adran gorfodi morol Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei dylunio a’i chynhyrchu gan Red Dragon Flagmakers, sef menter gymdeithasol yn Abertawe.