Mae undeb myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) wedi talu teyrnged i “aelod cyfeillgar, hwyliog a hynod boblogaidd” a gafodd ei anafu mewn ymosodiad difrifol yn Aberystwyth dros y penwythnos.
Fe gafodd Ifan Owens o Gaerdydd, sy’n astudio Criminoleg yn y brifysgol, ei ddarganfod yn anymwybodol ar Stryd Uchel y dref am oddeutu 2:20yb ddydd Sul (Ionawr 14).
Cafodd wedyn ei gludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, cyn cael eu drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.
“Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn rhai anodd i ni gyd yn sgil y newyddion am yr ymosodiad difrifol ar ein ffrind a’n cyd-fyfyriwr Ifan Owens dros y penwythnos,” meddai’r undeb.
“Rydw i’n siŵr bydd pawb yn cytuno fod Ifan yn aelod cyfeillgar, hwyliog a hynod boblogaidd o fewn UMCA. Bydd absenoldeb Ifan yn cael ei deimlo ar draws UMCA yn ystod y cyfnod anodd yma.”
Mae teulu Ifan Owens hefyd wedi rhyddhau datganiad, gan ddweud eu bod wedi cael eu “calonogi” gan yr holl negeseuon o gefnogaeth dros y dyddiau diwethaf.
Rhyddhau tri dyn
Yn wreiddiol, fe gafodd pedwar dyn – 25, 23, 20 a 19 oed – eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.
Ond mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod tri dyn bellach wedi’u “rhyddhau dan ymchwiliad”, ac mai’r dyn 19 oed sy’n parhau yn y ddalfa.