Mae modd prynu hanner un o ynysoedd yr afon Menai, a hynny am bris o £700,000.

Mae Ynys Faelog oddi ar arfordir de-ddwyrain Ynys Môn, ac mae’r rhan o’r ynys sydd ar werth yn cynnwys darn o goedwig a gardd, ynghyd â thŷ pump ystafell.

Cafodd y tŷ ei adeiladu’n wreiddiol fel dau fwthyn unigol i bysgotwyr yn y 18fed ganrif, cyn cael ei addasu’n fathdy yn oes Fictoria.

Dim ond yn ddiweddar y cafodd un o ynysoedd eraill y Fenai, sef Ynys Castell, ei defnyddio fel lleoliad ar gyfer y gyfres ddrama Craith ar S4C, gyda’r tŷ’n cael ei ddefnyddio yn gartref y prif gymeriad, Cadi John.

Mae Ynys Faelog yn cael ei werthu gan y cwmni gwerthu tai rhyngwladol, PurpleBricks, sy’n disgrifio’r lle fel cyfle “i un o’ch breuddwydion ddod yn wir”. Mae cylchgronau glosi fel Country Living hefyd yn tynnu sylw ei ddarllenwyr at y cyfle.

Mae’r ynys yn un o bedair ynys fechan rhwng Porthaethwy a Biwmares, sy’n cynnwys Ynys Castell, Ynys y Bîg, Ynys Gaint ac Ynys Tobig.