Marw’r Parchedig J Aelwyn Roberts yn 99 oed

 
Eglwys Llandegai

Eglwys Llandegai

Llun: www.oldukphotos.com

Mae cyn-ficer Llandygai, y Parchedig J Aelwyn Roberts wedi marw’n 99 oed.

Roedd hefyd yn awdur llyfrau am ysbrydion, gan gynnwys Yr Anhygoel a Holy Ghostbuster ac fe gafodd nifer o’i lyfrau eu troi’n gyfresi i’r BBC ac S4C.

Roedd hefyd yn un o leisiau gwreiddiol y gyfres radio Wil Cwac Cwac yn y 1940au.

Dywedodd Deon Cadeirlan Bangor, y Tra Pharchedig Kathy Jones ei fod yn “unigryw” ac yn “llawn cariad, gwybodaeth a himwor diderfyn”.

Roedd ganddo fe chwech o blant, 23 o wyrion a phedwar o or-wyrion.

 

 

 

 

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Tywysogion Cymru – pa rai sy’n werth eu cofio?