Mae achos marwolaeth llanc 19 oed a aeth ar goll yn ystod Sioe Frenhinol Cymru y llynedd yn dal i fod yn ddirgelwch.

Roedd corff James Corfield wedi cael ei ddarganfod yn afon Gwy gan ddeifwyr bum niwrnod yn ddiweddarach.

Clywodd cwest yn y Trallwng y gallai fod wedi marw o ganlyniad i’r sioc o gael ei drochi mewn dŵr oer, gan nad oedd unrhyw dystiolaeth ei fod wedi boddi, dim tystiolaeth iddo ddioddef ymosodiad nac unrhyw esboniad arall am ei farwolaeth.

Wrth ddod i’r casgliad fod marwolaeth James Corfield yn ddamweiniol, dywedodd y crwner Andrew Barkley ei fod yn credu iddo farw yn y dŵr.

Roedd wedi cael ei weld ddiwethaf yn nhafarn y White Horse yn Llanfair ym Muallt yn oriau mân fore Mawrth 25 Gorffennaf 2017 ar ôl bod yn gwersylla yn y Sioe ers deuddydd.