Mae Prif Weinidog Cymru yn pwysleisio bod angen i Gymru ac Ewrop gydweithio wrth ddelio gyda’r bygythiadau seibr-ddiogelwch sy’n dod o bob cwr o’r byd.

Mae Carwyn Jones yn Llydaw heddiw i lofnodi cytundeb newydd a fydd yn cryfhau’r cysylltiad rhwng Cymru a’r rhanbarth yn Ffrainc.

Gyda Brexit ar y gorwel, nod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw dangos pa mor bwysig yw hi i barhau i gydweithio gydag Ewrop i ddelio â seibr-ddiogelwch.

Fe fydd Carwyn Jones hefyd yn ymweld â Chanolfan Ragoriaeth Seibr, sy’n cynnig hyfforddiant, ymchwil a chymorth i fusnesau bach a chanolig sy’n gweithio yn y diwydiant seibr.

“Her fyd-eang”

 “Mae diogelwch seibr ac atal ymosodiadau seibr yn her fyd-eang”, meddai Carwyn Jones, “a dim ond drwy gydweithio â phartneriaid rhyngwladol y gallwn ni ymateb iddi.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau ar flaen y gad yn y byd technoleg. Dim ond drwy barhau i weithio gyda phartneriaid ledled y byd a chymryd rhan mewn ymchwil a rhaglenni arloesol Ewropeaid y gallwn ni gyflawni hyn.”