Mae’r BBC yn hysbysebu am aelod o staff i drefnu eitemau a chyfranwyr ar gyfer yr orsaf newydd, Radio Cymru 2.

Mae disgwyl i’r ‘Ymchwilydd’ fod yn unigolyn “creadigol” ac yn “gyfathrebwr da”, i fod yn barod i “weithio mewn tim cyffrous o bobol ar brosiect hanesyddol” yr ail wasanaeth radio yn y Gymraeg.

Mae disgwyl i’r gwasanaeth newydd ddechrau darlledu am ddwyawr y dydd, bob dydd, ar Ionawr 29.

O’r neges ar wefan gymdeithasol Facebook, mae’n amlwg y bydd yr Ymchwilydd hefyd yn gweithio i Radio Cymru, gyda’r opsiwn o weithio yng nghanolfannau darlledu Caerdydd neu Fangor.

Mewn cyfweliad â golwg360 yr wythnos ddiwethaf, mae Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru, yn mynnu mai “nid arbrawf” ydi’r orsaf newydd, a’i bod “yma i aros”, wedi’i hymgorffori yn Siarter y BBC.

Bydd modd gwrando ar yr orsaf newydd ar lwyfannau digidol yn gynnwys DAB, bbc.co.uk/radiocymru, BBC iPlayer, bbc.co.uk/radiocymru2, ac ar deledu.