Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghynllun Morlyn Llanw Bae Abertawe – gan alw ar Lywodraeth Prydain i fwrw ati i roi’r cynllun ar waith.

Mae’n flwyddyn bellach ers i Adolygiad Hendry argymell y dylai’r prosiect fynd yn ei flaen, ond mae Llywodraeth Prydain yn parhau i wrthod buddsoddi ynddo.

Mae Carwyn Jones wedi dweud wrth Brif Weithredwr y cynllun, Mark Shorrock, heddiw ei fod yn barod i roi cefnogaeth ariannol i’r prosiect, a hynny ar ôl iddo anfon llythyr at Brif Weinidog Prydain, Theresa May yn cynnig talu peth o gostau cyfalaf y prosiect.

Mewn datganiad, dywed Carwyn Jones y byddai’r prosiect yn “creu miloedd o swyddi o’r radd flaenaf” ac y byddai’n “diwallu cyfran helaeth o anghenion ynni’r Deyrnas Unedig… gan wneud Prydain yn arweinydd mewn diwydiant byd-eang newydd”.

‘Llywodraeth Prydain yn llusgo’i thraed’

“Ac eto,” meddai, “mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn llusgo’i thraed ers dros flwyddyn.

“Mae hyn yn arwain at ymdeimlad cynyddol o rwystredigaeth ymhlith y gymuned fusnes yng Nghymru a risg cynyddol y bydd diffyg penderfyniad yn troi’n benderfyniad i beidio â bwrw ymlaen.

“Dyma’r amser i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi’r gorau i oedi a mynd ati i gytuno ar bris sefydlog fel y gallwn wireddu’r prosiect trawsnewidiol hwn.”