Dros y tri mis nesaf bydd cyfle i bobol yng Nghymru roi eu barn ar gynlluniau llywodraeth Cymru i wahardd taro plant.

Pe bai hynny’n cael ei weithredu, byddai’r gwaharddiad yn golygu mai Cymru fyddai’r ail wlad o fewn y Deyrnas Unedig i roi’r gorau i gosbi plant yn gorfforol.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i gael gwared â’r amddiffyniad ‘ymosodiad wedi’i gyfiawnhau’ yn y gyfraith sy’n caniatáu i rieni ddefnyddio cosb gorfforol i geryddu plentyn.

Yng Nghymru, mae’r llywodraeth yn bwriadu dileu’r amddiffyniad o ‘gosb resymol’ i droseddau curo ac ymosod.

Wrth agor cyfnod ymgynghori o 12 wythnos ar y mater, mae’r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, yn dweud y byddai’r gwaharddiad yn rhan o becyn ehangach o fesurau i gefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.

“Rydyn ni am i rieni yng Nghymru fod yn hyderus wrth reoli ymddygiad eu plant heb deimlo eu bod yn gorfod troi at gosb gorfforol,” meddai.

“Os oes unrhyw berygl posib o wneud niwed i blentyn, yna r’yn ni’n rhwym i weithredu.”

Mae gwledydd eraill sydd eisoes wedi gwahardd taro plant, yn cynnwys Ffrainc, Sweden, Norwy, Denmarc ac Iwerddon.