Fe fydd hwb ariannol newydd yn rhoi cymorth i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i baratoi ar gyfer Brexit, yn ôl cyhoeddiad gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

 

Mae Cronfa Bontio’r Undeb Ewropeaidd, a fydd yn cael cymorth cychwynnol o £50 miliwn, yn gyfuniad o gymorth ariannol a benthyciadau, ac fe fydd hefyd yn darparu cyngor i fusnesau ar faterion technegol a masnachol.

 

Fe fydd hefyd yn rhoi cymorth i gyflogwyr i gadw a pharhau i ddenu diansyddion o’r Undeb Ewropeaidd, ynghyd â darparu cymorth datblygu pwrpasol i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

 

Mynd “i’r afael” â heriau Brexit

 

Yn ôl y Prif Weindiog, Carwyn Jones, mae’n cydnabod bod Brexit yn codi “heriau a chyfleoedd gwahanol” ar gyfer pob agwedd ar fywyd yng Nghymru, a nod y gronfa newydd hon fydd “mynd i’r afael” â’r heriau.

 

“Rwy’n gwneud cyhoeddiad cynnar am y gronfa hon er mwyn inni gael y cyfle gorau posibl i’w chynllunio ar y cyd â’r sefydliad a’r busnesau hynny y bwriedir iddi eu helpu,” meddai.

 

“Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i ymdopi â’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw.

 

“Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu atebion sy’n gweithio yng Nghymru, a byddwn ni’n parhau i gydweithio â pharteriaid i fanteisio ar bob cyfle.”