Mae grwp trafod sy’n mynd dan yr enw ‘Agora Cymru’ wedi tynnu’n ôl un o’i argymhellion ar greu tref newydd i siaradwyr Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru.

Ar ôl i golwg360 gyhoeddi ddoe mai un o argymhellion cyntaf Agora Cymru yw mynd â’r Fro Gymraeg yn nes at y siaradwyr sy’n symud i’r brifddinas i fyw a gweithio, mae’r gymdeithas bellach wedi ail-feddwl.

“Penderfynom dynnu’r argymhelliad ‘Tref Gymraeg Newydd’ o’n gwefan am nad oeddem i gyd yn Agora Cymru yn cytuno am y cysyniad y tu ôl iddo,” meddai’r seiat syniadau ar ei chyfrif Twitter.

“Efallai wnaethom ni ei gyhoeddi bach yn gynnar allan o frwdfrydedd! Gwefan newydd ydym sydd yn parhau i ddysgu! Diolch.”

Mae pwy yn union sydd y tu ôl i’r grŵp yn parhau i fod yn ddirgelwch – er bod Agora Cymru yn dweud mai “criw o fyfyrwyr” yng Nghaerdydd ydi’r aelodau.

Doedd y felin drafod ddim yn awyddus i siarad â golwg360 dros y ffôn, a dyw’r aelodau ddim wedi ymateb i gwestiynau ebost ynglyn â’i nod a’i hamcanion.

Fel hyn y gwnaed y datganiad ar Twitter yn gynharach heddiw:

https://twitter.com/Agora_Cymru/status/949258165660635136