Mae angen creu tref newydd ger Caerdydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Dyna yw un o gynigion cymdeithas newydd sy’n galw ei hun ‘Agora Cymru’.

Mae’n ei disgrifio ei hun fel “seiat ddoethion” ac ar ei gwefan yn awgrymu ffyrdd o sicrhau parhad y Gymraeg a chynyddu nifer ei siaradwyr. Er hynny, does yna ddim awgrym eto o bwy ydi’r ‘doethion’ sydd ynglyn â’r seiat.

Un o’i chynigion yw creu tref newydd i siaradwyr Cymraeg ar gyrion y brifddinas, ar ben syniad yr Aelod Cynulliad, Adam Price, sy’n awgrymu creu Bro Gymraeg, ‘Arfor’ yn y gorllewin.

Tra bod Adam Price yn argymell creu tair tref Gymraeg eu hiaith yn y gorllewin, mae Agora Cymru am weld un arall yn cael ei chreu yn y de ddwyrain.

“Os ydy siaradwyr Cymraeg yn gadael Y Fro Gymraeg am ardal Caerdydd, efallai dylid dod â’r Fro Gymraeg gyda nhw i gyrion Caerdydd,” meddai Agora Cymru ar ei gwefan.

Yn ardal Pentyrch…

Mae’r gymdeithas yn awgrymu creu tref o tua 500 o bobol yn ardal Pentyrch yn y gogledd-orllewin ar gyrion Caerdydd, i sicrhau bod y Fro Gymraeg yn y de ddwyrain rhwng y ddinas a’r Cymoedd.

“Wrth gwrs ni fydd y dref newydd yma ar gyfer y siaradwyr Cymraeg hynny sydd yn gadael y Fro Gymraeg yn unig, ond ar gyfer unrhyw un sydd yn medru’r Gymraeg.

“Y mae yna sicr siaradwyr Cymraeg sydd yn frodorol o’r De Ddwyrain a buasai’n croesawu cael byw mewn tref Gymraeg.”

Targed miliwn – “anuchelgeisiol”

Mae’r gymdeithas hefyd yn galw am ddefnyddio mwy o Gymraeg ar raglenni newyddion Saesneg yng Nghymru.

Yn ôl Agora Cymru, dylai pobol Cymru sy’n siarad Cymraeg allu cyfrannu yn Gymraeg mewn cyfweliadau ar y cyfryngau cenedlaethol gan ddefnyddio isdeitlau i wylwyr di-Gymraeg.

Mae Agora Cymru hefyd yn dweud bod targed Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050 yn “anuchelgeisiol o ystyried y gefnogaeth sylweddol sydd tuag at hyrwyddo’r Gymraeg yn wleidyddol, a hefyd o gyfeiriad y cyhoedd.”

Ar hyn o bryd, mae’n ddirgelwch pwy sydd y tu ôl i’r seiat newydd.