Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ymosodiad yn Aberdaron ddiwedd haf y llynedd, pan gafodd dyn ei anafu ar benwythnos Gŵyl Pen Draw’r Byd.

Roedd hi tua 9.30yh ar nos Sadwrn, Medi 2, 2017, pan ymosododd rhywun ar ddyn o Ynys Môn o flaen gwesty’r Tŷ Newydd yng nghanol pentref Aberdaron.

Fe gafodd y gŵr ei anafu’n ddifrifol, a dydi o ddim wedi gallu rhoi disgrifiad o’r ymosodwr i’r heddlu. Ond roedd yna gannoedd o bobol yn y pentref ym mhen draw Llŷn y penwythnos hwnnw, ac mae’r heddlu’n gobeithio bod rhywun wedi gweld y digwyddiad ac yn gallu bod o help i’r ymchwiliad.

“Mi wnaethon ni ymholiadau ar y pryd, ac roeddan ni wedi gobeithio y basa rhywun wedi dod ymlaen â gwybodaeth wedi hynny, ond dydi hynny ddim wedi digwydd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

 

“Ar hyn o bryd, dydan ni ddim yn gwybod beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad, ond rydan ni’n benderfynol o ddod o hyd i’r ymosodwr.”