Mae Beibl hynafol, sy’n rhan o stori glaniad y Ffrancwyr yn Sir Benfro yn y 18fed ganrif, ar gael i’r cyhoedd ei weld y mis hwn.

Mae ‘Beibl Llanwnda’, sy’n dyddio o’r flwyddyn 1620 ac yn eiddo i Eglwys Sant Gwyndaf yn Llanwnda ger Abergwaun, yn enwog oherwydd i ddarnau ohono gael eu rhwygo a’u llosgi gan filwyr o Ffrancwyr wrth iddyn nhw reibio’r eglwys yn 1797.

Roedd y digwyddiad yn rhan o ymdrech aflwyddiannus gan y Ffrancwyr i oresgyn ynys Prydain, a hynny pan oedd y ddwy wlad mewn rhyfel yn erbyn ei gilydd.

Glaniodd 1,4000 o filwyr ar Garreg Wastad ger Abergwaun ar Chwefror 22, 1797, a chyn ildio i’r awdurdodau Prydeinig ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, bu gwrthdaro rhyngddyn nhw â thrigolion lleol – gyda’r arwres Jemimah Nicholas yn eu plith.

Yn ystod y digwyddiad hwn y cafodd eglwys Llanwnda ei rheibio gan y llu, ac er na chafodd y Beibl ei ddinistrio’n llwyr, mae olion llosgi ar ymylon y tudalennau, a nifer o dudalennau ar goll.

Y Beibl mewn “cyflwr gwael”

Fe fu’r Beibl yn cael ei arddangos yn Llanwnda tan 2015, cyn cael ei drosglwyddo i Lyfrgell Roderic Bowen, Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw arno.

Yn ôl Ruth Gooding, llyfrgellydd sy’n arbenigo mewn llyfrau prin, roedd y llyfr mewn cyflwr “gwael iawn” pan ddaeth i law’r llyfrgell, a hynny oherwydd iddo gael ei stori o dan “amodau gwael” yn yr eglwys.

Mae’r Beibl yn rhan o arddangosfa yn y llyfrgell yn Llanbed drwy gydol mis Ionawr, cyn y bydd yn dychwelyd i Sir Benfro,

“Mae Beibl Llanwnda yn llyfr hynod o bwysig, ac yn rhan o stori’r plwyf bychan ger Abergwaun,” meddai Ruth Gooding.

“Dw i wedi siarad gyda ficer y plwyf, ac mae hi’n dweud bod nifer o bobol wedi gofyn i gael gweld y Beibl. Mae’n rhan o stori Llanwnda – yno y dylai fod.”