Guto Bebb
Mae Aelod Seneddol wedi ysgrifennu at S4C gan ddweud na ddylai aelod o Awdurdod S4C fod ar y panel i benodi Prif Weithredwr newydd.

Dywedodd Guto Bebb, AS Aberconwy, ei fod wedi ysgrifennu at Huw Jones, Cadeirydd yr Awdurdod, gan ddweud na ddylai’r bargyfreithiwr Winston Roddick QC fod ar y panel.

Mae Winston Roddick QC yn un o naw aelod o’r Awdurdod fydd ar y panel wrth gyfweld yr ymgeiswyr ddydd Gwener.

Mae Golwg 360 ar ddeall fod Arwel Ellis Owen, y Prif Weithredwr dros-dro, Rhodri Williams, Aled Eurig, a Geraint Rowlands ymysg yr enwau sy’n debygol o gael eu cyfweld.

‘Ffrind’

Ar y Gofrestr o Fuddiannau ar wefan S4C mae’r bargyfreithiwr Winston Roddick yn nodi ei fod “yn ffrind i Arwel Ellis Owen, cyfarwyddwr Cambrensis, cwmni cyfarwyddo ffilmiau annibynnol”.

“Mae Arwel Ellis Owen hefyd wedi trin datganiadau i’r wasg ar fy rhan o dro i dro,” meddai.

Ond dywedodd Guto Bebb wrth Golwg 360 na ddylai rhywun sy’n ffrind i un o’r ymgeiswyr fod ar y panel penodi.

‘Cwmwl’

“Y peth ola’ y mae’r sianel eisiau ydi fod cwmwl tros benodiad Prif Weithredwr newydd. Efo’i gefndir cyfreithiol, mi ddylai Winston Roddick fod yn ymwybodol o hyn,” meddai Guto Bebb wrth Golwg360.

“Os oedd hi’n bwysig ei fod yn datgan diddordeb yn ôl yn 2009 mae’n hanfodol erbyn hyn. Mae eisiau i Awdurdod S4C symud o’r sefyllfa lle maen nhw’n creu’r stori.”

Dywedodd llefarydd ar ran S4C y bydd pob aelod o’r panel yn ymwybodol o gyfeillgarwch Arwel Ellis Owen a Winston Roddick cyn y cyfweliad ddydd Gwener.

“Fe fydd gofyn i bob aelod o’r awdurdod wneud datganiad o unrhyw ddiddordebau neu gysylltiadau cyn cychwyn y cyfarfod,” meddai llefarydd ar ran S4C wrth Golwg360.

Gwrthododd y sianel gynnig sylw pellach am sylwadau Guto Bebb.