Mae bachgen wyth oed wedi marw ar ôl i gar daro yn erbyn coeden yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf ddoe.

Bu farw’r bachgen yn y fan a’r lle tua 5.45yh ddydd Iau, 28 Rhagfyr, meddai Heddlu’r De.

Cafodd nifer o bobl eraill a oedd yn teithio yn y car hefyd eu hanafu yn y digwyddiad a’u cludo i’r ysbyty am driniaeth.

Dywed yr heddlu bod y car, Seat Altea lliw glas, wedi gwyro oddi ar y ffordd a tharo coeden ger Coedwig Smilog.

Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deulu’r bachgen.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion i’r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1700504610.