Mae dyn 29 oed wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio, yn dilyn ymosodiad yn Abertawe nos Sadwrn.
Mae disgwyl i Kyle Dunbar ymddangos gerbron ynadon yn y ddinas heddiw (Rhagfyr 26).
Yn y cyfamser, mae dyn 39 oed yn parhau i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Treforys.
Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 8.40yh ar Ragfyr 23. Yn ôl adroddiadau lleol, fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn swyddfa cwmni tacsis Station Cabs.