Dydi’r gweithlu addysg ddim wedi’i baratoi’n ddigonol ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd yn dadlau bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu “ar frys” i sicrhau bod athrawon yn barod am y newid fydd yn dod.

Mewn adroddiad mae’r pwyllgor yn nodi nad yw llawer yn ymwybodol o’r newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno, ac mai ond “lleiafrif” sy’n teimlo’n barod am y newidiadau.

Argymhellion

  • Gwella’r ddarpariaeth hyfforddiant gyfredol ledled Cymru
  • Achrediad ffurfiol ar gyfer rhaglenni datblygiad proffesiynol athrawon
  • Ymestyn cylch gorchwyl y Cyngor Gweithlu Addysg
  • Diwygiadau i nodi’r safonau disgwyliedig yn gliriach

Heriau ar y gorwel

“Mae’r dystiolaeth a gawsom yn awgrymu nad yw’r gweithlu presennol yn teimlo’n barod ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Cynulliad, Lynne Neagle.

“Felly mae gofyn am weithredu brys gan Lywodraeth Cymru i unioni hyn. Credwn y bydd ein hargymhellion yn helpu i sicrhau bod athrawon mewn sefyllfa well i ymdrin â’r heriau sydd ar y gorwel.”

“Gweithio’n agos”

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb gan ddweud bod “heriau bob amser wrth gyflwyno cwricwlwm newydd” ond eu bod yn “gweithio’n agos gydag athrawon” i wneud yn siŵr eu bod yn barod.

“Rydym yn gwrando’n ofalus ar yr hyn y mae athrawon yn ei ddweud wrthym,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae adroddiad annibynnol diweddar ar y broses o ddatblygu’r cwricwlwm newydd yn dangos bod yr ysgolion arloesi’n teimlo’n hyderus a’u bod yn cael cefnogaeth briodol.”

“Mae’n amlwg bod momentwm clir i’r gwaith hwn, sy’n dangos bod ein dull o weithio yn ateb y diben. Byddwn yn ystyried holl argymhellion yr adroddiad ac yn ymateb yn ffurfiol iddynt yn y Flwyddyn Newydd.”