Mae murlun 50 troedfedd o uchder i ddathlu ymgyrch farchnata ‘Blwyddyn y Chwedlau 2017’, wedi ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd.

Mae’r darn yn cynnwys ffigyrau chwedlonol Cymreig ac wedi’i osod ar y Tŵr Dŵr eiconig y tu allan i Orsaf Rheilffordd Caerdydd Canolog.

Cafodd ei ddylunio gan yr artist Pete Fowler, sy’n fwy adnabyddus am ei waith celf ar gloriau albymau band y Super Furry Animals.

Mae’r dadorchuddiad yn nodi diwedd prosiect ‘Cymru Ryfedd a Chyfareddol’, lle ymunodd 30 o awduron â Pete Fowler ar daith o gwmpas Cymru.

Amhosib ei fethu

“Mae Cymru Ryfedd a Chyfareddol wedi bod yn brosiect arbennig sy’n cyfuno ysgrifennu creadigol, celf weledol, chwedleua, a hyfforddiant ar gyfer awduron yn chwech o leoliadau Cadw o amgylch Cymru,” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

“Pa well ffordd i ddod â’r daith chwedlonol hon i ben, na thrwy ddadorchuddio’r murlun trawiadol hwn yng nghanol y brifddinas?

“Fedrwch chi ddim ei fethu!”