Mae’r Nodyn Cyngor Technegol – neu TAN 20 – yn “wan a disylwedd”, yn ôl arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn.

Dywed fod y cyfarwyddyd i gynllunwyr tai yn “hynod o aneglur” wrth geisio dehongli’r ddeddfwriaeth am geisiadau cynllunio tai a’u heffaith ar y Gymraeg.

Mae wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o anwybyddu sylwadau Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn wrth ymateb i ymgynghoriad.

Mewn datganiad, dywedodd Dyfrig Siencyn: “Mae’n eironig, a dweud y lleiaf, bod Llywodraeth Cymru’n anwybyddu barn aelodau etholedig sy’n cynrychioli trwch y boblogaeth ar lawr gwlad.

“Yn fwy rhyfedd fyth, mae’r Llywodraeth yn anwybyddu barn un o’r cynghorau sy’n gweithio yn ardaloedd Cymreiciaf Cymru, ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf ac sydd felly’n arbenigwyr wrth hyrwyddo a datblygu cymunedau Cymraeg.”

Gwrth-ddweud

Mae Plaid Cymru yng Ngwynedd yn dweud bod “gwrth-ddweud llwyr o fewn y Ddeddf Gynllunio”, gan arwain at ddiffyg eglurder i ddatblygwyr tai.

Maen nhw’n gofidio hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi diffiniad neu gyfarwyddyd ynghylch beth yw ardal o sensitifrwydd ieithyddol, ac maen nhw’n dweud bod y termau sy’n cael eu defnyddio yn TAN20 yn anghyson.

Ychwanegodd Dyfrig Siencyn: “Rydym yn gwbl argyhoeddedig y dylai’r NCT20 wneud yn gwbl eglur bod dyletswydd ar yr ymgeisydd sy’n chwilio am gais i ddatblygu tŷ ddangos sut y rhoddwyd ystyriaeth effeithlon i effaith yr adeilad hwnnw ar yr iaith Gymraeg a’r gymuned wrth roi’r cynnig at ei gilydd.

“Nid yw’r NCT20 yn cynnig unrhyw arweiniad ynglŷn â sut i wneud asesiadau iaith sy’n safonol a chyson eu naws er bod Nodiadau Cyngor Technegol eraill yn cynnig methodoleg bendant ynglŷn â sut i ymdrin ag elfennau fel tai fforddiadwy, cyfrifo Banc Tir ag ati.

“Tystiolaeth bellach nad yw’r Llywodraeth yn rhoi sylw addas na phriodol i sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru.”

‘Arweiniad llawer cryfach yng Ngwynedd a Môn’

Yn ôl Dyfrig Siencyn, mae cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn eisoes yn rhoi “arweiniad llawer cryfach” i ddatblygwyr tai wrth roi ystyriaeth i’r Gymraeg wrth gynllunio.

“Rydym ar hyn o bryd yn llunio Canllawiau Cynllunio Atodol perthnasol a fydd yn rhoi cyfarwyddyd llawer mwy manwl a safonol i ddatblygwyr tai ei dilyn, na’r hyn sydd o fewn y NCT20,” meddai.

“Rydym yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Gynllunio, Lesley Griffiths i ail edrych ar y NCT20 i sicrhau eglurder a safon yn y gwaith o ystyried y Gymraeg wrth gynllunio tai.”