Mae dynes wedi gorfod talu £590 i Gyngor Sir Gaerfyrddin ar ôl iddi ddympio 20 o beiriannau coffi yn anghyfreithlon.

Gadawodd Samantha Podbury y peiriannau ar safle casglu ym maes parcio Morrisons, Llanelli. Mae bellach yn byw yng Nghynwyl Elfed.

Fe wnaeth y ddynes 28 o ardal y Bryn, Llanelli, gyfaddef ei bod wedi dympio cyfanswm o 24 o beiriannau coffi ar ddau achlysur

“Mae’n rhaid i mi ganmol diwydrwydd y tîm gorfodi am gwblhau’r ymchwiliad cymhleth hwn mewn ffordd mor broffesiynol a thrylwyr,” meddai’r Cynghorydd Philip Hughes, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Orfodi Materion Amgylcheddol.

“Rydym yn darparu biniau gwastraff offer trydan ar safleoedd amrywiol i breswylwyr, ar gyfer offer trydan neu electronig bach. Ond mae angen Trwydded Cludo Gwastraff er mwyn gwaredu cymaint o wastraff â hyn, yn ogystal â bod yn barod i waredu’r offer yn briodol mewn un o’n canolfannau ailgylchu.”