Mae arbenigwyr iechyd wedi rhybuddio am y peryglon o yfed dan oedran ar ôl i astudiaeth ganfod bod un o bob chwe rhiant yn gadael i’w plant yfed alcohol yn 14 oed.

Rhieni plant gwyn sydd wedi cael addysg dda yw’r fwyaf tebygol o adael i’w plant yfed yn 14 oed, yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Pennsylvania yn America.

Roedd rhieni oedd yn tueddu peidio yfed alcohol yn dueddol o beidio gadael i’w plant yfed.

Ond ymhlith y rhai oedd yn yfed, doedd y rhieni oedd yn yfwyr trymach ddim yn fwy tebygol i adael i’w plant yfed alcohol nag yr yfwyr mwy cymedrol.

Mae’r canllawiau diweddaraf yn awgrymu bod plentyndod di-alcohol yn well, gyda phlant ddim yn yfed tan eu bod yn 15 oed.

Problemau yfed

Yn ôl astudiaethau blaenorol, mae’r sawl sy’n yfed alcohol yn ifancach yn fwy tebygol o fethu yn yr ysgol, cael problemau ymddygiad, ynghyd â phroblemau ag alcohol a sylweddol pan fyddan nhw’n oedolion.

Ar ôl edrych ar ddata o dros 10,000 o blant a gafodd eu geni yn y Deyrnas Unedig ar droad y ganrif, roedd yn dangos bod 17% o rieni yn gadael i’w plant yfed alcohol erbyn iddyn nhw droi’n 14 oed.

Yn ôl yr Athro Jennifer Maggs, a arweiniodd yr astudiaeth, “prin yw’r dystiolaeth” fod gadael i blant yfed yn eu dysgu sut i fod yn yfwyr cyfrifol.