Mae banc Santander yng Nghaernarfon bellach yn cynnig yr opsiwn o ddefnyddio’r Gymraeg yn ddiofyn wrth i gwsmeriaid dynnu arian o beiriannau twll-yn-y-wal.

Daw’r newyddion dri mis yn unig ar ôl i gangen y banc yn Aberystwyth wrthod prosesu ffurflenni aelodaeth Cymdeithas yr Iaith am eu bod nhw yn Gymraeg.

Serch hynny, mae gan Santander bellach Bolisi Iaith Gymraeg sy’n gosod y Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr â’i gilydd – ac mae’r Gymraeg yn ymddangos gyntaf yn nhre’r Cofis.

“Rydym am i bob un o’n cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith deimlo’n gyfforddus ynghylch defnyddio’r Gymraeg wrth ddefnyddio ein gwasanaethau bancio o ddydd i ddydd,” meddai’r polisi iaith, “ac rydym yn annog pobol i’w defnyddio lle bo hynny’n bosib.”

Peiriannau arian

Yn yr adran sy’n trafod peiriannau twll-yn-y-wal yn benodol, dywed y banc fod y “rhan fwyaf o’n peiriannau arian yng Nghymru yn rhoi’r dewis i gwsmeriaid o ran defnyddio’r Gymraeg”.

“Pan fyddwch yn defnyddio’r peiriant arian parod, gofynnir i chi ddewis pa iaith fyddai’n well gennych ei defnyddio.

“Ar hyn o bryd, rydym yn gosod peiriannau arian newydd sydd â sgriniau cyffwrdd ar draws ein rhwydwaith o ganghennau, a bydd y rhain yn y dyfodol hefyd yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y canghennau hynny yng Nghymru.”

Croeso

Ar wefan gymdeithasol Facebook, mae defnyddwyr wedi bod yn canmol y cam gan Santander i sicrhau bod y Gymraeg ar gael ar beiriannau twll-yn-y-wal heb fod angen gofyn amdani.

“Braf iawn gweld y Gymraeg fel iaith ddiofyn ar beiriant twll-yn-y-wal Santander Caernarfon!” meddai un. “Gofyn i aelod o staff a dyna ydi’r stori ymhob man o wsos yma ymlaen medda fo! Codi calon!”

Mae defnyddwraig arall, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor, yn dweud bod y staff yno wedi cael gwybod “bod y Gymraeg ar gael ar y peiriant yn llyfrgell y Brifysgol hefyd”.

Polisi

Yn ôl y polisi, mae gan Santander 39 o ganghennau yng Nghymru, a phum cangen o fewn prifysgolion.

Mae canolfannau busnes y cwmni wedi’u lleoli yng Nghaerdydd ac Abertawe ac maen nhw’n “recriwtio o’r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt, ac mae gennym lawer o gydweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn ein canghennau ledled Cymru”.

“Rydym yn annog cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg i helpu cwsmeriaid gyda’u hymholiadau bancio gan ddefnyddio eu dewis iaith, fel y byddent yn ei wneud yn eu bywyd bob dydd arferol.

“Mae pob un o’n cydweithwyr cangen sy’n siarad Cymraeg yn hawdd eu hadnabod gan y byddant yn gwisog bathodyn oren cydnabyddedig a’r logo ‘Iaith Gwaith’ arno.”