Mae Cyngor Gwynedd wedi “colli cyfle” i wrthsefyll y defnydd cynyddol o dir Cymru “fel safle i hyfforddi at faes y gad”.

Dyna sut y mae Cymdeithas y Cymod yn ymateb heddiw i benderfyniad yr awdurdod i gymeradwyo buddsoddiad o £500,000 ar ddatblygu canolfan awyrofod ym Maes Awyr Llanbedr ger Harlech.

Pryder ymgyrchwyr y grŵp yw bydd yr arian yn cyfrannu at “hyrwyddo drôns militaraidd” ac at “ddatblygu safle fydd yn arbenigo mewn lladd”.

“Hybu’r diwydiant milwrol”

“Ein prif bryder yw ein bod yn defnyddio tir ac awyr Cymru i hybu’r diwydiant milwrol yma sydd wedi dinistrio cymaint o fywydau diniwed ar draws y byd.

“Credwn fod y Cyngor yma wedi colli cyfle i wrthsefyll y cynnydd cynyddol ar ddefnyddio ein gwlad fel safle i hyfforddi at faes y gad.

“Mae hyn yn syndod i ni gan fod mwyafrif Cyngor Gwynedd yn aelodau o Blaid Cymru. Ble’r aeth traddodiad radical a heddychol Plaid Cymru?

“Drôns masnachol”

Yn ôl y Cyngor bydd y buddsoddiad yn cyfrannu at ffordd fynediad newydd a gwelliannau i gyfleusterau’r maes. Yn ôl un o ddogfennau’r cyngor bydd 100 swydd yn cael ei greu.

Mae Prif Weithredwr y safle, Paul Lee, wedi mynnu mai, “drôns masnachol fydd yn cael eu defnyddio yn y mwyafrif o weithgareddau yno”.

Er hyn, mae’n cydnabod “mwy na thebyg” y bydd defnydd milwrol i’r safle, ac mae’n dweud bod y ganolfan mewn trafodaethau â’r Llu Awyr “tros ddefnyddio Llanbedr”.