Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi dweud yn y Senedd heddiw ei fod wedi gofyn cwestiwn am honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014 – a hynny wedi i Carl Sargeant ofyn iddo wneud.

Mewn datganiad heddiw mae Darren Millar yn dweud fod Carl Sargeant wedi troi ato gan sôn am honiadau o fwlio gan unigolyn oedd yn gweithio o fewn Llywodraeth Cymru.

Mae Carwyn Jones wedi dweud yn y gorffennol na wnaeth dderbyn honiadau o fwlio yn ystod y cyfnod.

Mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog wedi ychwanegu heddiw – “Mae’r Prif Weinidog yn cadw at ei atebion blaenorol o ran y mater hwn ac wedi annog pobol yn barod i gyflwyno tystiolaeth berthnasol i’r ymchwilydd annibynnol, James Hamilton.”

Mae ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru ac mae’n cael ei arwain gan James Hamilton, Ymgynghorydd Annibynnol i Lywodraeth yr Alban.