Mae Cymru ymysg y goreuon yn y byd o ran ailgylchu, yn ôl adroddiad newydd.

O ran ailgylchu gwastraff solet trefol (MSW) mae Cymru yn bedwerydd ac yn ailgylchu 52.2% o’i gwastraff, ac o ran ailgylchu gwastraff y cartref mae Cymru yn drydydd gan ailgylchu 53.9%.

Ac wrth ystyried cynhyrchu a thrin gwastraff (mewn cilogramau’r pen) Cymru yw’r ail yn y byd â chyfradd o 63.8%, gyda’r Almaen â chyfradd 66.1%.

Ond, mae’r adroddiad – gan ddadansoddwr amgylcheddol Eunomia – hefyd yn dangos mai Cymru sydd fwyaf tebygol o ddisodli’r Almaen fel yr ailgylchwyr MSW gorau yn y byd.

Mor gynnar â 2018, mae’n ddigon posib mai Cymru fydd yn y safle cyntaf ar gyfer y categori hwnnw.

“Ymhell” ar  y blaen

Mae’n debyg bod Cymru “ymhell o flaen” gweddill y Deyrnas Unedig, lle mae yna “amrywiaeth mawr” rhwng gwledydd.

Digon tebyg mai polisïau ‘Dyfodol Diwastraff 2050’ Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y llwyddiannau yma.

Goreuon y byd

Gwastraff solet trefol

  1. Yr Almaen: 56.1%
  2. Awstria: 53.8%
  3. De Corea: 53.7%
  4. Cymru: 52.2%
  5. Y Swistir: 49.7%

Gwastraff y cartref

  1. Yr Almaen: 57.0%
  2. Taiwan: 55.4%
  3. Cymru: 53.9%
  4. Awstria: 53.8%
  5. De Corea: 53.7%