Mae’r grwp y tu ôl i’r ymdrech i ail-sefydllu papur newydd Y Cymro, yn chwilio am eu haelod staff cyntaf.

Mewn cyhoeddiad ar wefan gymdeithasol Facebook brynhawn heddiw, mae Cyfeillion y Cymro yn galw ar i ddarpar swyddogion hysbysebu gysylltu â nhw.

Fe ddaeth y cyhoeddiad ddechrau’r mis eu bod wedi derbyn grant gan Gyngor Llyfrau Cymru i ail-ddechrau cyhoeddi’r papur yn fisol o fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae nhw wedi derbyn £13,500 ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol 2017/18, ynghyd ag addewid am grant blynyddol o £18,000 ar gyfer 2018/19.

“Oes ganddoch chi ddiddordeb mewn #busnes?” meddai post diweddaraf Cyfeillion y Cymro, cyn holi wedyn, “Hoffech chi annog busnesau #Cymrugefnogi #YCymro ar ei newydd wedd? Cysylltwch!”

Er nad oes mwy o fanylion y swydd ar Facebook, mae’n cael ei nodi’n glir fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.