Gydag eira wedi disgyn dros rannau helaeth o Gymru a rhew ar y ffyrdd, mae teithwyr wedi eu hannog i fod yn wyliadwrus.

Mae’r eira wedi creu amodau gyrru anodd ar yr A55, yr A4061 rhwng Hirwaun a Threherbert, yr A494 rhwng Rhuthun a Dinbych a’r B4501 rhwng Cerrigydrudion a Llyn Brenig.

Hefyd mae ffordd Blaenau’r Cymoedd yr A465 ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Gilwern a Merthyr Tudful, wedi i ddwy lori gael eu difrodi.

Ledled Cymru mae dros 170 o ysgolion wedi cau oherwydd yr eira ac mae Dŵr Cymru wedi rhybuddio cwsmeriaid bod yna bosibiliad y gall bibellau rewi gan achosi difrod.

Mae rhybudd tywydd melyn mewn grym dros Gymru heddiw ac yfory, ac mae disgwyl i lefel y rhybudd godi mewn rhai ardaloedd ddydd Sul.