Mae merch ifanc o Sir Gâr wedi marw wrth iddi gael triniaeth am gyflwr prin iawn oedd yn effeithio ar ei system imiwnedd.

Roedd Nia Wyn Thomas, 25, am fod y cyntaf yng Nghymru i gael llawdriniaeth arbennig i drin clefyd granulomatous cronig, neu CGD, sy’n golygu bod celloedd yn y system imiwnedd yn cael trafferth gweithredu yn y ffordd y dylen nhw.

Mae’n gyflwr genetig prin, gyda chleifion yn llawer mwy tebygol o ddatblygu heintiau gwahanol o achos ei system imiwnedd gwan.

Mae teyrngedau lu wedi dod i’r ferch “ddewr ac ysbrydoledig”, oedd yn ymladd ei chlefyd “drwy fod yn bositif bob amser”. Roedd hi a’i chariad, Thomas Harvey, newydd ddyweddïo.

“Dw i wedi colli fy ffrind gorau, fy nyweddi a fy narpar wraig,” meddai Thomas Harvey mewn neges ar Facebook.

“Roedd hi’n ddewr tan y diwedd a chefais y cyfle i fod yn rhan o’i bywyd tan y diwedd. Mae fy nghalon wedi torri.”

“Cymeriad bythgofiadwy”

Fe aeth i Ysgol Gyfun Bro Myrddin cyn astudio yn Ysgol Gelf Coleg Sir Gâr. Yn fwy diweddar, bu’n gweithio yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Roedd hi hefyd yn aelod o grŵp Tynnu Rhaff Merched Llangadog a bu’n cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau yng ngwledydd Prydain ac Ewrop.

“Roedd Nia ddim yn unig yn dynnwr gwych ond yn berson hyfryd ac yn gymeriad bythgofiadwy a bydd pawb oedd yn ei hadnabod yn gweld ei heisiau,” meddai Cymdeithas Tynnu Rhaff Cymru.

“Mae ein cydymdeimladau dwysaf yn mynd at ei theulu ac aelodau tîm [Merched Llangadog].”