Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth mewn cysylltiad â marwolaeth dyn y cafwyd hyd i’w gorff mewn afon yn Rhondda Cynon Taf.

 

Cafodd corff Royston Payne, 46, ei ddarganfod yng nghanol Afon Cynon, ger Penrhiwceibr, ar 23 Tachwedd.

 

Dywed Heddlu De Cymru bod achos ei farwolaeth yn anesboniadwy.

 

Cafodd ei weld am y tro diwethaf ar Awst 12 eleni, yn ardal Aberaman – yr ardal lle’r oedd yn byw.

 

Roedd yn gwisgo pâr o jîns glas tywyll, breichled a mwclis pan gafodd ei ddarganfod gan yr heddlu.

 

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad i’w farwolaeth, gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 1700460342.