‘Cofiwch siopa yn lleol’

 

Gyda Chymry rif y gwlith yn heidio tros Glawdd offa i wneud eu siopa Dolig, mae undeb ffermwyr yn galw arnyn nhw i wneud eu gorau glas i gefnogi busnesau gwledig a lleol.

“Gyda’r Nadolig ar y trothwy, rwyf am eich annog chi i feddwl am brynu’r cinio Nadolig mawreddog ac anrhegion y teulu a chyfeillion gan fusnesau gwledig a lleol,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Siaradwch gyda’r cigydd lleol am gig dros yr Ŵyl ac ewch i’r siop fferm leol i weld beth sydd gyda nhw i gynnig – rwy’n addo y bydd y rhan fwyaf o’r cynhwysion sydd eu hangen arnoch ar gyfer y cinio Nadolig ar gael yn lleol.”

Anrhegion ar gael yn lleol

Ychwanegodd Glyn Roberts: “Mae yna hefyd lawer o siopau bach yn gwerthu crefft Cymreig ac anrhegion a gynlluniwyd yn lleol, ac wrth gwrs mae’r dewis ar gyfer anrhegion bwyd lleol yn helaeth. Mae’n werth cael golwg ar hyn. Bydd ein penderfyniadau bach siopa ni, yn eu tro, yn cael effaith fawr ar ein heconomi wledig.

“Bydd punt sy’n cael ei wario’n lleol yn mynd ymhellach na phunt sy’n cael ei wario mewn siop gadwyn ac mae’n cynnal ein heconomïau gwledig. Drwy gefnogi ein busnesau lleol, nid ydym yn chwyddo cyflog Prif Weithredwr er mwyn prynu cartref gwyliau arall, ond yn hytrach yn helpu mam a thad lleol i roi bwyd ar y bwrdd, mae teulu’n medru talu eu morgais, mae merch fach yn medru cael gwersi dawnsio ac mae bachgen bach yn medru cael crys ei hoff dîm.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd