Mae’r Post Brenhinol wedi cadarnhau wrth golwg360 na fydd Hedd Wyn yn cael ei gynnwys mewn casgliad o stampiau i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

“Daethom i benderfyniad terfynol yn 2015 ynglŷn â beth a phwy fydd yn ymddangos ar stampiau’r rhyfel Byd Cyntaf 2017,” meddai llefarydd ar ran y Post Brenhinol mewn ymateb i gwestiwn gan y wefan hon.

“Yn anffodus, does gennym ni ddim cyfle arall i gynnwys stamp yn talu teyrnged i Hedd Wyn.”

Daw’r datganiad yn dilyn cyhoeddiad llythyr agored – wedi’i lofnodi gan ffigyrau adnabyddus – yn galw ar y Post i fynd ati “ar frys” i gynnwys y bardd yn eu casgliad.

Mae’r llythyr yn dadlau bod cynrychioli’r bardd yn “hollbwysig” ac yn honni bod y Post Brenhinol wedi penderfynu “gwrthod” ei gynnwys.

 

Lemuel Thomas Rees

Mae’r Post Brenhinol yn tynnu sylw at y ffaith bod stori Cymro arall ar wahân i Hedd Wyn wedi’i gynnwys yn y gyfres o stampiau’r Rhyfel Mawr.

“[Ar gyfer y casgliad] mi wnaethon ni, yn fwriadol, chwilio am stori yn cynnwys milwr o Gymru er mwyn nodi cyfraniad nodedig pobol Cymru,” meddai’r llefarydd wrth golwg360.

A’r stori gafodd ei dewis, oedd stori’r Preifat Lemuel Thomas Rees a gafodd ei achub o enau marwolaeth gan ei Feibl. Delwedd o’r Beibl hwn sydd i’w weld yn y casgliad.

Cyfres fydd yn cael ei rhyddhau dros gyfnod pum mlynedd yw’r casgliad stampiau. Mae’r gyfres yn ei phedwaredd flwyddyn.