Fydd Prif Weinidog Cymru ddim yn mynd i angladd y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant, yfory.

Mewn datganiad, mae Carwyn Jones yn dweud y byddai ef a’i wraig wedi dymuno mynd i dalu teyrnged i’r gwleidydd a gyflawnodd hunanladdiad ddechrau’r mis, ar ol cael ei ddiswyddo tros honiadau o gamymddwyn rhywiol ond nad yw’r teulu eisiau hynny.

“Fe fyddai Lisa a fi wedi dymuno mynd i’r angladd ddydd Gwener, er mwyn talu teyrnged i’n ffrind,” meddai Carwyn Jones.

“Ond rydyn ni, wrth gwrs, yn parchu dymuniadau’r teulu ar yr adeg yma, ac felly’n gobeithio y cân’ nhw’r cyfle i ddathlu bywyd Carl mewn heddwch a heb i unrhyw beth darfu na thynnu oddi ar hynny.”

Fe gafwyd Carl Sargeant yn farw yn ei gartref ar Dachwedd 7. Roedd wedi’i grogi ei hun yn ei gartref yng Nghei Conna.

Bydd angladd Carl Sargeant yn Eglwys Sant Marc, Cei Conna fory (Rhagfyr 1).