Mae’n well gan y mwyafrif o Gymry dderbyn cerdyn Nadolig na neges destun yn dymuno ‘Nadolig Llawen’, yn ôl ymchwil newydd gan Oxfam Cymru.

Dywedodd 84% o’r 101 o Gymry a gafodd eu holi eu bod yn ysu o hyd i dderbyn cerdyn trwy’r post.

Roedd 60% yn dal i gredu mai anfon cerdyn yw’r ffordd fwyaf priodol o anfon cyfarchion yr Ŵyl, a 12% yn cyfaddef y bydden nhw’n teimlo’n siomedig pe baen nhw’n derbyn neges ar wefan gymdeithasol yn hytrach na cherdyn traddodiadol.

Serch hynny, fe gyfaddefodd 7% o Gymry eu bod nhw wedi dileu ffrind oddi ar wefan gymdeithasol am iddyn nhw beidio ag anfon neges Nadoligaidd atyn nhw.

Ar gyfartaledd mae pobol ledled gwledydd Prydain yn anfon 23 cerdyn bob blwyddyn, ac yn treulio 45 munud yn eu hysgrifennu nhw.

Roedd un o bob pedwar ledled gwledydd Prydain hefyd yn dweud eu bod yn defnyddio’r cerdyn Nadolig fel cyfle i anfon negeseuon hirach gan adrodd hanes y flwyddyn wrth deulu a ffrindiau nad ydyn nhw’n eu gweld mor aml â hynny.

‘Hoff o’r traddodiadau’
“Pan mae’n dod at gyfnod y Nadolig rydym ni’n hoff o’n traddodiadau ac mae’r ymchwil yma’n dangos ein bod ni’n gytun pan mae’n dod ar gardiau Nadolig hefyd,” meddai Pennaeth Profiad Cwsmer Oxfam, Fee Gilfeather.

“Does dim curo neges bersonol wedi ei sgwennu â llaw. Ac wrth gwrs mae’r cardiau Nadolig hefyd yn addurniadau wedi iddyn nhw gael eu hongian adref.

“Yn wahanol i rai cardiau Nadolig elusenol, mae’r holl elw sy’n cael ei wneud wrth werthu cardiau Nadolig Oxfam yn mynd at achos da – taclo tlodi yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

“Eleni eto mae siopau Oxfam yn llawn o gardiau Nadolig prydferth sydd wedi eu dewis yn ofalus ar eich cyfer – ar gyfer pob pwrs a phob chwaeth – rhai doniol a rhai cywrain.

“Y llynedd roedd elw gwerthiant cardiau Nadolig Oxfam yn ddigon i helpu plant oedd yn dioddef o ddiffyg maeth yn Niger. Bellach mae dŵr glân a saff yn llifo trwy eu cymunedau, er mwyn sicrhau bod y plant hyn yn tyfu’n iach am flynyddoedd i ddod.

“R’yn ni nawr yn gwybod bod modd i’ch ewyllys da godi calonnau a rhoi  i’ch teulu a’ch ffrindiau, ac i’r bobl mae Oxfam yn eu cefnogi ar draws y byd. Felly ewch ati i brynu ac ysgrifennu eich cardiau!”