Yn Llys y Goron Caerdydd, mae dyn a dreisiodd ddynes mewn arosfan bws wedi cael ei garcharu am 14 mlynedd.

Roedd Ricky Jeremy, 23, wedi targedu’r ddynes wrth iddi gysgu yn yr arosfan bws, yn oriau man fore dydd Gwener, 8 Medi.

Nid oedd y ddynes, 36, yn cofio’r digwyddiad ond cafodd y digwyddiad ei ddal ar gamerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) ac roedd tystiolaeth fforensig hefyd wedi dangos cysylltiad rhwng Ricky Jeremy a’r ymosodiad.

Yn ystod y digwyddiad roedd wedi pwnio’r ddynes sawl gwaith yn ei hwyneb wrth ymosod arni’n rhywiol cyn ei threisio.

Ar ôl i’r rhai a oedd yn gweithredu’r camerâu CCTV ffonio’r heddlu cafodd Ricky Jeremy ei arestio ger safle’r ymosodiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Roedd eisoes wedi cyfaddef i’r troseddau mewn gwrandawiad cynharach yn y llys.

Fe blediodd yn euog i gyhuddiad o dreisio, ceisio treisio, ymosod yn rhywiol ac achosi niwed corfforol.