Mae’r cynhyrchydd teledu Dyfrig Davies wedi cael ei benodi yn Gadeirydd newydd ar fudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru.
Yn wreiddiol o Gastell Newydd Emlyn mae Dyfrig Davies bellach yn byw gyda’i deulu yn ardal Llandeilo.
Dechreuodd ei yrfa yn athro cyn troi at y cyfryngau, ac erbyn hyn mae’n Uwch Gynhyrchydd a rhan berchennog o gwmni cynhyrchu Telesgop.
Roedd yn Gadeirydd ar Fwrdd Eisteddfod yr Urdd tan ei benodiad, ac mi fydd yn olynu Tudur Dylan Jones wrth y llyw.
“Cyfrifoldeb mawr”
“Dw i’n ei hystyried hi’n fraint ond hefyd yn gyfrifoldeb mawr,” meddai Dyfrig Davies. “Diolch didwyll i Tudur Dylan am ei waith rhagorol dros y blynyddoedd.
“Wrth edrych tua’r dyfodol, dw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Siân Lewis ein Prif Weithredwr newydd – mae’n gyfnod cyffrous i’r mudiad.”