Mae mam ditectif preifat o Bowys, a gafodd ei lofruddio, wedi marw cyn i’r dirgelwch am ei lofruddiaeth gael ei ddatrys.

Cafwyd hyd i Daniel Morgan mewn maes parcio y tu allan i dafarn yn Llundain gyda bwyell yn ei ben ym mis Mawrth 1987.

Roedd Isobel Hulsmann, 89 oed, wedi ymgyrchu i geisio darganfod y gwir am lofruddiaeth ei mab gan deithio o’i chartref yn Y Gelli Gandryll i osod blodau wrth ei fedd yn Llundain.

Cafodd panel annibynnol ei sefydlu ym mis Mai 2013 yn dilyn sawl ymchwiliad, a oedd wedi costio tua £30 miliwn, ond fe fethodd a datrys y dirgelwch am amgylchiadau ei farwolaeth.

“Brwydro”

Roedd Theresa May, yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, wedi penodi cyn-ombwdsmon heddlu Gogledd Iwerddon, y Farwnes Nuala O’Loan o Kirkinriola, i arwain y panel.

Fe gyhoeddodd Alastair Morgan, brawd Daniel Morgan, bod ei fam wedi marw ddydd Gwener. Dywedodd bod Isobel Hulsmann wedi cael diagnosis o ganser chwe mis yn ôl ond nad oedd hi erioed wedi rhoi’r gorau i frwydro i geisio darganfod y gwir, ac wedi bod yn mynychu cyfarfodydd tan yn ddiweddar.

Roedd Scotland Yard wedi cyfaddef bod yr ymchwiliad cyntaf i lofruddiaeth Daniel Morgan wedi cael ei effeithio oherwydd llygredd yr heddlu.

Dywed Alastair Morgan ei fod yn gobeithio y bydd adroddiad y panel yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref 2018.