Mae tîm achub mynydd Bannau Brycheiniog wedi codi dros £8,300 wedi i’w pencadlys yn Nowlais, ger Merthyr Tudful, gael ei ddinistrio gan dân dros y penwythnos.
Mae’r tîm, sydd wedi sefydlu tudalen codi arian ar y wefan JustGiving, yn gobeithio cyrraedd y targed o £250,000 wedi i’r tân yn eu pencadlys yn Nowlais nos Sadwrn (25 Hydref) ddifrodi offer a oedd yn cynnwys tri cherbyd achub.
Aeth yr adeilad, a oedd yn cael ei ddefnyddio i storio’r tri cherbyd, ynghyd â holl gyfarpar y tîm, ar dân oddeutu 8:30yh, ac fe fu’r gwasanaethau tân yn brwydro’r fflamau am rai oriau.
Mae wedi dod i’r amlwg nad oedd y tân wedi cael ei gynnau’n fwriadol ac ni chafodd unrhyw un ei anafu yn sgil y digwyddiad.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y tîm achub mynydd eu bod wedi penderfynu sefydlu’r dudalen codi arian ar ôl derbyn “nifer o geisiadau o gymorth” gan y cyhoedd, ac maen nhw’n ddiolchgar hefyd i bob un am eu “geiriau caredig o gymorth”.